Sut rydym yn gweithio
Bydd yr holl benderfyniadau a wnawn a’r camau a gymerwn yn unol ag un neu fwy o’r canlynol:
Blaenoriaethau’r bobl
Bydd ein gwaith yn cael ei yrru gan bryderon pobl yng Nghymru a byddwn yn gweithio gydag unigolion a grwpiau cymunedol i’w hadnabod.
Cynrychiolydd pawb
Rydym am gefnogi a deall pryderon, anghenion a phrofiadau ein poblogaeth amrywiol i wneud yn siŵr bod pawb yn cael eu cynrychioli, nad oes neb yn cael ei eithrio a bod ein gwasanaethau ar gael i bawb.
Rydym yn arbennig o awyddus i gynrychioli barn y rheini na chlywir eu lleisiau fel arfer. Os ydych chi'n credu y gallwch chi ein helpu ni i gyrraedd pobl rydych chi'n gwybod sy'n cael eu tangynrychioli, cysylltwch â ni.
Partneriaeth gydweithredol
Rydym eisiau gweithio gyda phobl, y sector iechyd a gofal cymdeithasol a’r sectorau gwirfoddol a chymunedol.
Cysylltwch â ni os nad ydym eisoes yn gweithio gyda chi a'ch bod yn meddwl y dylem fod.
Annibyniaeth
Nid ydym yn rhan o Lywodraeth Cymru, na’r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hynny’n bwysig oherwydd mae’n golygu y gallwn weithio’n wirioneddol er budd pobl Cymru.
Llywodraethu da
Bydd gennym gynlluniau a blaenoriaethau clir [dolen i Darllenwch ein cynlluniau] gyda chanlyniadau y gallwn eu mesur i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'n hadnoddau a'n bod yn dryloyw ac yn atebol.
Dylanwad ac eiriolaeth
Byddwn yn dylanwadu ar y sector iechyd a gofal cymdeithasol ac yn eirioli dros bobl yn effeithiol fel bod pobl yng Nghymru yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt mewn ffordd sy’n gweithio orau iddynt.