Dweud eich dweud
Ydych chi'n defnyddio gwasanaethau'r GIG neu ofal cymdeithasol - er enghraifft, meddygon teulu, ysbytai, fferyllfeydd, deintyddion, yn derbyn gofal yn y cartref neu'n byw mewn cartref gofal?
Yna gallwch chi helpu i'w wneud yn well i bawb trwy ddweud wrthym am eich profiadau - da a drwg.
Rydym eisiau clywed gan bobl yn holl gymunedau amrywiol Cymru – yn enwedig y rhai nad yw eu lleisiau bob amser yn cael eu clywed.
Bydd eich straeon bywyd go iawn a'ch adborth yn creu darlun o'r hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio fel y gallwn helpu llunwyr polisi a gweithredwyr i wella gwasanaethau.
Ac, oherwydd ein bod yn gorff statudol, mae'n rhaid i holl sefydliadau'r GIG, awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector sy'n darparu gofal wrando arnom.
Mae llawer o ffyrdd cyflym a hawdd o ddweud eich dweud:
- gallwch lenwi ein ffurflen adborth cyffredinol (sy’n cymryd tua phum munud)
- neu edrych ar ein harolygon gwasanaeth-benodol rheolaidd i weld a oes gennych unrhyw beth i’w ddweud am y rheiny.
Felly os oes angen cyngor arnoch, help gyda chwyn neu os ydych yn barod i rannu’ch stori, cysylltwch â ni.